Job 14 BCN

1 “Y mae pob un a anwyd o wraigyn fyr ei oes ac yn llawn helbul.

2 Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo;diflanna fel cysgod ac nid erys.

3 A roi di sylw i un fel hyn,a'i ddwyn ef i farn gyda thi?

4 Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb!

5 Gan fod terfyn i'w ddyddiau,a chan iti rifo'i fisoedd,a gosod iddo ffin nas croesir,

6 yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd,fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith.

7 “Er i goeden gael ei thorri,y mae gobaith iddi ailflaguro,ac ni pheidia ei blagur â thyfu.

8 Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear,ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd,

9 pan synhwyra ddŵr fe adfywia,ac fe flagura fel planhigyn ifanc.

10 Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth,a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach.

11 Derfydd y dŵr o'r llyn;disbyddir a sychir yr afon;

12 felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,ni ddeffry tra pery'r nefoedd,ac nis cynhyrfir o'i gwsg.

13 O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!

14 (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,hyd nes i'm rhyddhad ddod.

15 Gelwit arnaf, ac atebwn innau;hiraethit am waith dy ddwylo.

16 Yna cedwit gyfrif o'm camre,heb wylio fy mhechod;

17 selid fy nhrosedd mewn cod,a chuddid fy nghamwedd.

18 “Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro,ac fel y symud y graig o'i lle,

19 ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd,ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd,felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu.

20 Parhei i'w orthrymu nes derfydd;newidi ei wedd, a'i ollwng.

21 Pan anrhydeddir ei blant, ni ŵyr;pan ddarostyngir hwy, ni sylwa.

22 Ei gnawd ei hun yn unig sy'n ei boeni,a'i fywyd ei hun sy'n ei ofidio.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42