6 Daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.
7 Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.”
8 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.”
9 Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Ai'n ddiachos y mae Job yn ofni Duw?
10 Oni warchodaist drosto ef a'i deulu a'i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir.
11 Ond estyn di dy law i gyffwrdd â dim o'i eiddo; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.”
12 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele'r cyfan sydd ganddo yn dy law di, ond iti beidio â chyffwrdd ag ef ei hun.” Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD.