11 Rhoist imi groen a chnawd,a phlethaist fi o esgyrn a gïau.
12 Rhoist imi fywyd a daioni,a diogelodd dy ofal fy einioes.
13 Ond cuddiaist y rhain yn dy galon;gwn mai dyna dy fwriad.
14 Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf,ac ni'm rhyddhei o'm camwedd.
15 Os wyf yn euog, gwae fi,ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen.Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder.
16 Os ymffrostiaf, yr wyt fel llew yn fy hela,ac yn parhau dy orchestion yn f'erbyn.
17 Yr wyt yn dwyn cyrch ar gyrch arnaf,ac yn cynyddu dy lid ataf,ac yn gosod dy luoedd yn f'erbyn.