14 Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf,ac ni'm rhyddhei o'm camwedd.
15 Os wyf yn euog, gwae fi,ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen.Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder.
16 Os ymffrostiaf, yr wyt fel llew yn fy hela,ac yn parhau dy orchestion yn f'erbyn.
17 Yr wyt yn dwyn cyrch ar gyrch arnaf,ac yn cynyddu dy lid ataf,ac yn gosod dy luoedd yn f'erbyn.
18 “ ‘Pam y dygaist fi allan o'r groth?O na fuaswn farw cyn i lygad fy ngweld!
19 O na fyddwn fel un heb fod,yn cael fy nwyn o'r groth i'r bedd!
20 Onid prin yw dyddiau fy rhawd?Tro oddi wrthyf, imi gael ychydig lawenydd