2 Dywedaf wrth Dduw, ‘Paid â'm collfarnu i;dangos imi pam y dadleui â mi.
3 Ai da yw i ti orthrymu,a throi heibio lafur dy ddwylo,a ffafrio cyngor y drygionus?
4 Ai llygaid o gnawd sydd gennyt,neu a weli di fel y gwêl y meidrol?
5 A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn,a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gŵr?
6 Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd,ac yn chwilio am fy mhechod,
7 a thithau'n gwybod nad wyf yn euog,ac nad oes a'm gwared o'th law.
8 “ ‘Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd,ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.