6 Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd,ac yn chwilio am fy mhechod,
7 a thithau'n gwybod nad wyf yn euog,ac nad oes a'm gwared o'th law.
8 “ ‘Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd,ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.
9 Cofia iti fy llunio fel clai,ac eto i'r pridd y'm dychweli.
10 Oni thywelltaist fi fel llaeth,a'm ceulo fel caws?
11 Rhoist imi groen a chnawd,a phlethaist fi o esgyrn a gïau.
12 Rhoist imi fywyd a daioni,a diogelodd dy ofal fy einioes.