11 Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?
12 A ddaw'r dwl yn ddeallus—asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?
13 “Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,fe estynni dy ddwylo tuag ato;
14 ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt,ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;
15 yna gelli godi dy olwg heb gywilydd,a byddi'n gadarn a di-ofn.
16 Fe anghofi orthrymder;fel dŵr a giliodd y cofi amdano.
17 Bydd gyrfa bywyd yn oleuach na chanol dydd,a'r gwyll fel boreddydd.