13 “Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,fe estynni dy ddwylo tuag ato;
14 ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt,ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;
15 yna gelli godi dy olwg heb gywilydd,a byddi'n gadarn a di-ofn.
16 Fe anghofi orthrymder;fel dŵr a giliodd y cofi amdano.
17 Bydd gyrfa bywyd yn oleuach na chanol dydd,a'r gwyll fel boreddydd.
18 Byddi'n hyderus am fod gobaith,ac wedi edrych o'th gwmpas, fe orweddi'n ddiogel.
19 Fe orffwysi heb neb i'th ddychryn;a bydd llawer yn ceisio dy ffafr.