2 “Oni ddylid ateb y pentyrru hwn ar eiriau?A gyfiawnheir rhywun siaradus?
3 A wneir pawb yn fud gan dy faldorddi?A gei di watwar heb neb i'th geryddu?
4 Dywedaist, ‘Y mae f'athrawiaeth yn bur,a dilychwin wyf yn d'olwg.’
5 O na lefarai Duw,ac agor ei wefusau i siarad â thi,
6 a hysbysu iti gyfrinachau doethineb,a bod dwy ochr i ddeall!Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.
7 A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?
8 Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?