7 A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?
8 Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?
9 Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,ac yn ehangach na'r môr.
10 “Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,pwy a'i rhwystra?
11 Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?
12 A ddaw'r dwl yn ddeallus—asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?
13 “Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,fe estynni dy ddwylo tuag ato;