12 Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi;cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio;gosododd fi yn nod iddo anelu ato.
13 Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch;trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd,a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.
14 Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof;rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.
15 “Gwnïais sachliain am fy nghroen,a chuddiais fy nghorun yn y llwch.
16 Cochodd fy wyneb gan ddagrau,daeth düwch ar fy amrannau,
17 er nad oes trais ar fy nwylo,ac er bod fy ngweddi'n ddilys.
18 “O ddaear, na chuddia fy ngwaed,ac na fydded gorffwys i'm cri.