16 Cochodd fy wyneb gan ddagrau,daeth düwch ar fy amrannau,
17 er nad oes trais ar fy nwylo,ac er bod fy ngweddi'n ddilys.
18 “O ddaear, na chuddia fy ngwaed,ac na fydded gorffwys i'm cri.
19 Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst,ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.
20 Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio,difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,
21 fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw,fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.
22 Ychydig flynyddoedd sydd i ddodcyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.”