17 er nad oes trais ar fy nwylo,ac er bod fy ngweddi'n ddilys.
18 “O ddaear, na chuddia fy ngwaed,ac na fydded gorffwys i'm cri.
19 Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst,ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.
20 Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio,difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,
21 fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw,fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.
22 Ychydig flynyddoedd sydd i ddodcyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.”