4 Gallwn innau siarad fel chwithau,pe baech chwi yn fy safle i;gallwn blethu geiriau yn eich erbyn,ac ysgwyd fy mhen arnoch.
5 Gallwn eich calonogi â'm genau,a'ch esmwytháu â geiriau fy ngwefusau.
6 “Os llefaraf, ni phaid fy mhoen,ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf.
7 Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf;anrheithiaist fy holl gydnabod.
8 Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn;saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.
9 Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb,ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf;llygadrytha fy ngelynion arnaf.
10 Cegant yn wawdlyd arnaf,trawant fy ngrudd mewn dirmyg,unant yn dyrfa yn f'erbyn.