8 Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn;saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.
9 Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb,ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf;llygadrytha fy ngelynion arnaf.
10 Cegant yn wawdlyd arnaf,trawant fy ngrudd mewn dirmyg,unant yn dyrfa yn f'erbyn.
11 Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol,a'm taflu i ddwylo'r anwir.
12 Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi;cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio;gosododd fi yn nod iddo anelu ato.
13 Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch;trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd,a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.
14 Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof;rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.