10 Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.
11 Enynnodd ei lid yn f'erbyn,ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.
12 Daeth ei fyddinoedd ynghyd;gosodasant sarn hyd ataf,ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.
13 “Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.
14 Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod,ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.
15 Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf;estron wyf yn eu golwg.
16 Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb,er i mi erfyn yn daer arno.