13 “Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.
14 Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod,ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.
15 Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf;estron wyf yn eu golwg.
16 Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb,er i mi erfyn yn daer arno.
17 Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig,ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.
18 Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos;pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf.
19 Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf;trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn.