21 “Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion,oherwydd cyffyrddodd llaw Duw â mi.
22 Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw?Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd?
23 O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu!O na chofnodid hwy mewn llyfr,
24 wedi eu hysgrifennu â phin haearn a phlwm,a'u naddu ar garreg am byth!
25 Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw,ac y saif o'm plaid yn y diwedd;
26 ac wedi i'm croen ddifa fel hyn,eto o'm cnawd caf weld Duw.
27 Fe'i gwelaf ef o'm plaid;ie, fy llygaid fy hun a'i gwêl, ac nid yw'n ddieithr.Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn.