6 ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam â mi,ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch.
7 Os gwaeddaf, ‘Trais’, ni chaf ateb;os ceisiaf help, ni chaf farn deg.
8 Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc,a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.
9 Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf,a symudodd y goron oddi ar fy mhen.
10 Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.
11 Enynnodd ei lid yn f'erbyn,ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.
12 Daeth ei fyddinoedd ynghyd;gosodasant sarn hyd ataf,ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.