15 Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos,gan ddweud, ‘Nid oes neb yn fy ngweld’,ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.
16 Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd—y rhain na wyddant beth yw goleuni.
17 Y mae'r bore yr un fath â'r fagddu iddynt;eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu.
18 “Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt;melltithiwyd eu cyfran yn y tir;ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd.
19 Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar ôl eira,felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd.
20 Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn,ac ni chofir hwy mwyach;torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden.
21 Drygant yr un na ddygodd blant,ac ni wnânt dda i'r weddw.