3 Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd,a thywysant ymaith ych y weddw.
4 Gwthiant y tlawd o'r ffordd,a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.
5 Ânt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch;chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.
6 Medant faes nad yw'n eiddo iddynt,a lloffant winllan yr anghyfiawn.
7 Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,heb gysgod rhag yr oerni.
8 Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd;am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.
9 “Tynnir yr amddifad oddi ar y fron,a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.