6 Medant faes nad yw'n eiddo iddynt,a lloffant winllan yr anghyfiawn.
7 Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,heb gysgod rhag yr oerni.
8 Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd;am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.
9 “Tynnir yr amddifad oddi ar y fron,a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.
10 “Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad,a newynant wrth gasglu ysgubau.
11 Gwasgant yr olew rhwng y meini;sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.
12 O'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw,ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth;ond ni rydd Duw sylw i'w cri.