8 Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd;am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.
9 “Tynnir yr amddifad oddi ar y fron,a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.
10 “Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad,a newynant wrth gasglu ysgubau.
11 Gwasgant yr olew rhwng y meini;sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.
12 O'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw,ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth;ond ni rydd Duw sylw i'w cri.
13 “Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni,y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd,nac yn aros yn ei lwybrau.
14 Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofruddi ladd yr anghenus a'r tlawd.Yn y nos y gweithia'r lleidr;y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.