1 Yna atebodd Job:
2 “O fel yr wyt ti wedi cynorthwyo'r di-rym,a chynnal braich y di-nerth,
3 a rhoi cyngor i'r diddeall,a mynegi digonedd o wir ddoethineb!
4 I bwy yr oeddit yn traethu geiriau,a pha ysbryd a ddaeth allan ohonot?
5 Cryna'r cysgodion yn y dyfnder,a'r dyfroedd hefyd, a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
6 Y mae Sheol yn noeth ger ei fron,ac nid oes gorchudd dros Abadon.