7 Taena'r gogledd ar y gwagle,a gesyd y ddaear ar ddim.
8 Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau,ac ni rwygir y cwmwl odanynt.
9 Taena orchudd dros wyneb y lloer,a thyn ei gwmwl drosto.
10 Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd,yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.
11 Sigla colofnau'r nefoedd,a dychrynant pan gerydda.
12 Tawelodd y môr â'i nerth,a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb.
13 Cliriodd y nefoedd â'i wynt;trywanodd ei law y sarff wibiog.