1 Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:
2 “Cyn wired â bod Duw yn fyw, a droes o'r neilltu fy achos,a'r Hollalluog, a wnaeth fy einioes yn chwerw,
3 tra bydd anadl ynof,ac ysbryd Duw yn fy ffroenau,
4 ni chaiff fy ngenau lefaru twyll,na'm tafod ddweud celwydd!
5 Pell y bo imi ddweud eich bod chwi'n iawn!Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.
6 Daliaf yn ddiysgog at fy nghyfiawnder,ac nid yw fy nghalon yn fy ngheryddu am fy muchedd.