13 “Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw,ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:
14 os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan,ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.
15 Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla,ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.
16 Er iddo bentyrru arian fel llwcha darparu dillad fel clai,
17 er iddo ef eu darparu, fe'u gwisgir gan y cyfiawn,a'r diniwed a ranna'r arian.
18 Y mae'n adeiladu ei dŷ fel y pryf copyn,ac fel y bwth a wna'r gwyliwr.
19 Pan â i gysgu, y mae ganddo gyfoeth,ond ni all ei gadw;pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim.