5 Pell y bo imi ddweud eich bod chwi'n iawn!Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.
6 Daliaf yn ddiysgog at fy nghyfiawnder,ac nid yw fy nghalon yn fy ngheryddu am fy muchedd.
7 “Bydded fy ngelyn fel y drygionus,a'm gwrthwynebwr fel y twyllodrus.
8 Oherwydd pa obaith sydd i'r annuwiol pan dorrir ef i lawr,a phan gymer Duw ei einioes oddi arno?
9 A wrendy Duw ar ei gripan ddaw gofid iddo?
10 A yw ef yn ymhyfrydu yn yr Hollalluog?A eilw ef ar Dduw yn gyson?
11 Dysgaf chwi am allu Duw,ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog.