9 A wrendy Duw ar ei gripan ddaw gofid iddo?
10 A yw ef yn ymhyfrydu yn yr Hollalluog?A eilw ef ar Dduw yn gyson?
11 Dysgaf chwi am allu Duw,ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog.
12 Yn wir yr ydych chwi i gyd wedi ei weld eich hunain;pam, felly, yr ydych mor gwbl ynfyd?
13 “Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw,ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:
14 os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan,ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.
15 Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla,ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.