1 Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:
2 “O na byddwn fel yn yr amser gynt,yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,
3 pan wnâi i'w lamp oleuo uwch fy mhen,a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;
4 pan oeddwn yn nyddiau f'anterth,a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;
5 pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi,a'm plant o'm cwmpas.