11 “Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd,a phan welai llygad, canmolai fi;
12 oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai,a'r amddifad a'r diymgeledd.
13 Bendith yr un ar ddarfod amdano a ddôi arnaf,a gwnawn i galon y weddw lawenhau.
14 Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf;yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.
15 Yr oeddwn yn llygaid i'r dall,ac yn draed i'r cloff.
16 Yr oeddwn yn dad i'r tlawd,a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.
17 Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn,a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.