16 Yr oeddwn yn dad i'r tlawd,a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.
17 Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn,a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.
18 Yna dywedais, ‘Byddaf farw yn f'anterth,a'm dyddiau mor niferus â'r tywod,
19 a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd,a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,
20 a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd,a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.’
21 “Gwrandawai pobl arnaf,a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.
22 Wedi imi lefaru, ni ddywedent air;diferai fy ngeiriau arnynt.