18 Yna dywedais, ‘Byddaf farw yn f'anterth,a'm dyddiau mor niferus â'r tywod,
19 a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd,a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,
20 a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd,a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.’
21 “Gwrandawai pobl arnaf,a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.
22 Wedi imi lefaru, ni ddywedent air;diferai fy ngeiriau arnynt.
23 Disgwylient wrthyf fel am y glaw,ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn.
24 Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder?A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd.