5 pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi,a'm plant o'm cwmpas.
6 Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth,ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.
7 “Awn allan i borth y ddinas,ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgwâr;
8 a phan welai'r llanciau fi, cilient,a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;
9 peidiai'r arweinwyr â llefaru,a rhoddent eu llaw ar eu genau;
10 tawai siarad y pendefigion,a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.
11 “Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd,a phan welai llygad, canmolai fi;