1 “Ond yn awr y maent yn chwerthin am fy mhen,ie, rhai sy'n iau na mi,rhai na buaswn yn ystyried eu tadaui'w gosod gyda'm cŵn defaid.
2 Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi,gan fod eu hegni wedi diflannu?
3 Yn amser angen a newyn y maent yn ddifywyd,yn crafu yn y tir sych a diffaith.
4 Casglant yr hocys a dail y prysglwyna gwraidd y banadl i'w cadw eu hunain yn gynnes.
5 Erlidir hwy o blith pobl,a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr.
6 Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd,ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau.