11 Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.
12 Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;gorfodant fi i gerdded ymlaen,ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.
13 Maluriant fy llwybrau,ychwanegant at f'anffawd,ac nid oes neb yn eu rhwystro.
14 Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;rhuthrant trwy ganol y dinistr.
15 Daeth dychryniadau arnaf;gwasgerir fy urddas fel gan wynt;diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.
16 “Yn awr llewygodd fy ysbryd,cydiodd dyddiau cystudd ynof.
17 Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos,ac ni lonydda fy nghnofeydd.