18 Cydiant yn nerthol yn fy nillad,a gafael ynof wrth goler fy mantell.
19 Taflwyd fi i'r llaid,ac ystyrir fi fel llwch a lludw.
20 Gwaeddaf arnat am gymorth, ond nid wyt yn f'ateb;safaf o'th flaen, ond ni chymeri sylw ohonof.
21 Yr wyt wedi troi'n greulon tuag ataf,ac yr wyt yn ymosod arnaf â'th holl nerth.
22 Fe'm codi i fyny i farchogaeth y gwynt,a'm bwrw yma ac acw i ddannedd y storm.
23 Gwn yn sicr mai i farwolaeth y'm dygi,i'r lle a dynghedwyd i bob un byw.
24 “Onid yw un dan adfeilion yn estyn allan ei lawac yn gweiddi am ymwared yn ei ddinistr?