25 Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno,a gofidio dros y tlawd?
26 Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg;pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch.
27 Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd,daeth dyddiau gofid arnaf.
28 Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul;codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth.
29 Yr wyf yn frawd i'r siacal,ac yn gyfaill i'r estrys.
30 Duodd fy nghroen,a llosgodd f'esgyrn gan wres.
31 Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf,a'm ffliwt i seinio galar.”