7 Y maent yn nadu o ganol y perthi;closiant at ei gilydd o dan y llwyni.
8 Pobl ynfyd a dienw ydynt;fe'u gyrrwyd allan o'r tir.
9 “Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd;yr wyf yn destun gwawd iddynt.
10 Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf,ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.
11 Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.
12 Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;gorfodant fi i gerdded ymlaen,ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.
13 Maluriant fy llwybrau,ychwanegant at f'anffawd,ac nid oes neb yn eu rhwystro.