11 Oherwydd byddai hynny'n anllad,ac yn drosedd i'r barnwyr;
12 byddai fel tân yn difa'n llwyr,ac yn dinistrio fy holl gynnyrch.
13 “Os diystyrais achos fy ngwas neu fy morwynpan oedd ganddynt gŵyn yn fy erbyn,
14 beth a wnaf pan gyfyd Duw?Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo?
15 Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth,a'n creu yn y bru?
16 “Os rhwystrais y tlawd rhag cael ei ddymuniad,neu siomi disgwyliad y weddw;
17 os bwyteais fy mwyd ar fy mhen fy hun,a gwrthod ei rannu â'r amddifad—