30 Ni adewais i'm tafod bechutrwy osod ei einioes dan felltith.
31 Oni ddywedodd y dynion yn fy mhabell,‘Pwy sydd na ddigonwyd ganddo â bwyd?’?
32 Ni chafodd y dieithryn gysgu allan;agorais fy nrws i'r crwydryn.
33 A guddiais fy nhroseddau fel y gwna eraill,trwy gadw fy nghamwedd yn fy mynwes,
34 am fy mod yn ofni'r dyrfa,a bod dirmyg cymdeithas yn fy nychryn,a minnau'n cadw'n dawel heb fynd allan?
35 O na fyddai rhywun yn gwrando arnaf!Deuthum i'r terfyn; caiff yr Hollalluog yn awr fy ateb,a chaiff fy ngwrthwynebwr ysgrifennu'r wŷs.
36 Yn wir dygaf hi ar f'ysgwyddau,a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.