5 “A euthum ar ôl oferedd,a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo?
6 Pwyser fi mewn cloriannau cywiri Dduw gael gweld fy nghywirdeb.
7 Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd,a'm calon yn dilyn fy llygaid,neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo,
8 yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais,a diwreiddir yr hyn a blennais.
9 “Os denwyd fy nghalon gan ddynes,ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,
10 yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall,a chaiff dieithryn orwedd gyda hi.
11 Oherwydd byddai hynny'n anllad,ac yn drosedd i'r barnwyr;