14 Pe byddai ef yn rhoi ei frydar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn ôl ato'i hun,
15 yna byddai pob cnawd yn marw,a phawb yn dychwelyd i'r pridd.
16 “Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn,a rho sylw i'm geiriau.
17 A all un sy'n casáu barn lywodraethu?A gondemni di'r un cyfiawn cadarn?
18 Gall ef ddweud wrth frenin, ‘Y dihiryn’,ac wrth lywodraethwyr, ‘Y cnafon’;
19 nid yw'n dangos ffafr at swyddogion,nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd,oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt.
20 Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos;trenga'r cyfoethog, a diflannu;symudir ymaith y cryf heb ymdrech.