9 Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i nebymhyfrydu yn Nuw.’
10 “Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf.Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni,ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.
11 Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred,a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.
12 Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg,ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.
13 Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear,a rhoi'r byd cyfan iddo?
14 Pe byddai ef yn rhoi ei frydar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn ôl ato'i hun,
15 yna byddai pob cnawd yn marw,a phawb yn dychwelyd i'r pridd.