12 Os gwrthodant wrando, difethir hwy gan gleddyf,a darfyddant heb ddysgu dim.
13 “Y mae'r rhai annuwiol yn ennyn dig,ac ni cheisiant gymorth mewn caethiwed.
14 Y maent yn marw'n ifanc,wedi treulio'u bywyd gyda phuteinwyr cysegr.
15 Fe wareda ef y rhai trallodus trwy eu gofid,a'u dysgu trwy orthrymder.
16 “Er iddo geisio dy ddenu oddi wrth ofid,a'th ddwyn o le cyfyng i ehangder,a hulio dy fwrdd â phob braster,
17 yr wyt yn llawn o farn ar y drygionus,wedi dy feddiannu gan farn a chyfiawnder.
18 Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd,a phaid â gadael i faint y rhodd dy ddenu.