20 Paid â dyheu am y nos,pan symudir pobloedd o'u lle.
21 Gwylia rhag troi at ddrygioni,oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.
22 Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth;pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?
23 Pwy a wylia arno yn ei ffordd?a phwy a ddywed, ‘Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn’?
24 “Cofia di ganmol ei waith,y gwaith y canodd pobl amdano.
25 Y mae pawb yn edrych arno,ac yn ei weld o bell.
26 Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall,a'i flynyddoedd yn ddirifedi.