27 Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr,ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;
28 fe'u tywelltir o'r cymylau,i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.
29 A ddeall neb daeniad y cwmwl,a'r tyrfau sydd yn ei babell?
30 Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas,ac y cuddia waelodion y môr.
31 Â'r rhain y diwalla ef y bobloedd,a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd.
32 Deil y mellt yn ei ddwylo,a'u hanelu i gyrraedd eu nod.
33 Dywed ei drwst amdano,fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni.”