6 Nid yw'n gadael i'r drygionus gael byw,ond fe gynnal achos y gwan.
7 Ni thry ei olwg oddi ar y cyfiawn,ond gyda brenhinoedd ar orseddcânt eistedd am byth, a llwyddo.
8 Os rhwymir hwy mewn cadwynau,a'u dal mewn gefynnau gofid,
9 yna fe ddengys iddynt eu gweithreda'u trosedd, am iddynt fod yn ffroenuchel.
10 Rhydd rybudd iddynt am ddisgyblaeth,a dywed wrthynt am droi oddi wrth eu drygioni.
11 Os gwrandawant, a bod yn ufudd,fe gânt dreulio'u dyddiau mewn llwyddiant,a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.
12 Os gwrthodant wrando, difethir hwy gan gleddyf,a darfyddant heb ddysgu dim.