11 a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?
12 “A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y borea dangos ei lle i'r wawr,
13 er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear,i ysgwyd y drygionus ohoni?
14 Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl,ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.
15 Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus,a thorrir y fraich ddyrchafedig.
16 “A fedri di fynd at ffynhonnell y môr,neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?
17 A agorwyd pyrth angau i ti,neu a welaist ti byrth y fagddu?