14 Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl,ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.
15 Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus,a thorrir y fraich ddyrchafedig.
16 “A fedri di fynd at ffynhonnell y môr,neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?
17 A agorwyd pyrth angau i ti,neu a welaist ti byrth y fagddu?
18 A fedri di ddirnad maint y ddaear?Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.
19 “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,ac i le tywyllwch,
20 fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,a gwybod y llwybr i'w thŷ?